Croeso i wefan Ysgol Gymraeg y Cwm!
Ysgol cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Gymraeg y Cwm. Agorodd ei drysau am y tro cyntaf ym Mis Medi 2012. Pan agorwyd yr ysgol roedd 9 disgybl ar gofrestr yr ysgol ac mae 117 o ddisgyblion erbyn hyn. Mae'r ysgol yn derbyn disgyblion oed Meithrin i Flwyddyn 6. Mae dalgylch yr ysgol yn cwmpasu ardal Winsh-Wen, Bon-y-Maen, Pentrechwyth, Morfa, San Tomos a Port Tennant. Mae gennym dîm o staff sydd wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau fod pob plentyn yn ein gofal yn derbyn addysg o'r radd flaenaf ac yn cael pob cyfle i gyflawni eu potensial mewn awyrgylch gofalgar, diogel a hapus. Hyderwn bydd y wefan hon yn rhoi syniad i chi o ethos a natur yr ysgol yn ogystal a darparu gwybodaeth cyfredol i chi am yr hyn sy'n digwydd. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich ymweliad a'r wefan a'ch bod wedi dod o hyd i'r wybodaeth yr oeddech yn chwilio amdano. Cofiwch gysylltu a'r ysgol os ydych am unrhyw wybodaeth pellach. Diolch am ymweld a'n gwefan!

L o a d i n g
Ysgol Gymraeg Y Cwm , Jersey Road, Bon-y-Maen, Abertawe/Swansea, SA1 7DL
